2011 Rhif 971 (Cy. 141)

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn atodol i Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (“Rheoliadau Cymru a Lloegr”). Maent yn gwneud diwygiadau i nifer o offerynnau statudol Cymru at ddibenion trosi, o ran Cymru, Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t3). Maent hefyd, at yr un diben, yn dirymu un offeryn statudol Cymru.

Mae asesiad llawn, o'r effaith a gaiff darpariaethau’r Rheoliadau Cymru a Lloegr a’r Rheoliadau hyn ar fusnes, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus, ar gael gan y Rhaglen Wastraff, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Ergon House, Horseferry Road, Llundain, SW1P 2AL.


2011 Rhif 971 (Cy. 141)

diogelu’r amgylchedd, cymru

Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011

Gwnaed                               28 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       28 Mawrth 2011

Yn dod i rym                        29 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag atal, lleihau a rheoli gwastraff.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]).

Enwi, cychwyn a rhychwantu

1.(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)     yn dod i rym ar 29 Mawrth 2011; a

(b)     yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

2. Mae'r Atodlen, sy'n darparu ar gyfer diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005([3]), yn cael effaith.

Diwygio Rheoliadau Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004

3. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004([4]), yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff” (“waste facility”), yn lle “Erthygl 1(e) ac (f) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff”, rhodder “Erthygl 3(19) a (15) o Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff”.

Diwygio Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005

4.(1) Mae Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 —

(a)     yn lle is-baragraff (a) o baragraff (1), rhodder

ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff”;

(b)     yn lle is-baragraff (c) o baragraff (1), rhodder—

(c) mae cyfeiriad at briodweddau peryglus yn gyfeiriad at y priodweddau a osodir yn Atodiad III i'r Gyfarwyddeb Wastraff.”;

(c)     yn lle is-baragraff (b) o baragraff (2), rhodder—

(b) ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw'r rhestr wastraffoedd a osodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd ac mae cyfeiriad at y Rhestr Wastraffoedd yn cynnwys cyfeiriad at ei chyflwyniad (“y Cyflwyniad i'r Rhestr”).”.

(3) Yn rheoliad 4—

(a)     o flaen “H3 i H8”, mewnosoder “peryglus”;

(b)     hepgorer “o Atodiad III”.

(4) Hepgorer paragraffau 1 a 2 o Atodlen 2.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005

5. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005([6]), ym mharagraff (1) yn lle'r diffiniad o “Strategaeth Wastraff Cymru” rhodder—

ystyr “Strategaeth Wastraff Cymru” (“Waste Strategy for Wales”) yw'r cynllun cenedlaethol ar reoli gwastraff o fewn ystyr Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011, a elwir wrth yr enw hwnnw ac a gafodd ei baratoi gan Weinidogion Cymru;”.

Diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

6. Yn Atodlen 2 i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009([7]), ym mharagraff 3(1), yn lle'r geiriau o “Chyfarwyddeb 2006/12/EC” hyd at y diwedd, rhodder “Chyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff”.

Dirymu Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003

7.Dirymir Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003([8])

 

 

 

 

 

Jane Davidson                                                                                                                    

 

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

 

28 Mawrth 2011

 

 


YR ATODLEN       Rheoliad 2

 

Diwygiadau i Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

RHAN 1

Diwygiadau

1. Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005([9]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2. Yn lle rheoliad 2, rhodder—

Y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr gwastraff

2.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)   ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”)  yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff;

(b) ystyr “gwastraff” ("waste") yw unrhyw beth—

                       (i)  sy'n wastraff o fewn ystyr Erthygl 3(1) o'r Gyfarwyddeb Wastraff; ac

                      (ii)  yn ddarostyngedig i reoliad 15, nad yw wedi ei wahardd o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2(1), (2) neu (3).

(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gyfeiriad at yr amodau a bennir yn Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb honno, sef sicrhau yr ymgymerir â rheoli gwastraff heb beryglu iechyd dynol, heb niweidio’r amgylchedd ac, yn benodol—

(a)  heb risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid;

(b)  heb achosi niwsans oherwydd sŵn neu aroglau; ac

(c)  heb gael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig.”

.

3. Yn lle rheoliad 3, rhodder—

Atodiad III i'r Gyfarwyddeb Wastraff

3. Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn —

(a)   at Atodiad III yn gyfeiriad at Atodiad III (priodoleddau gwastraff sy'n ei wneud yn beryglus) i'r Gyfarwyddeb Wastraff, fel y gosodir yr Atodiad hwnnw yn Atodlen 3;

(b)   at briodoleddau peryglus yn gyfeiriad at y priodoleddau yn Atodiad III.”.

4. Yn rheoliad 4(1), yn y diffiniad o “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”), hepgorer o “, sef y rhestr” hyd at y diwedd.

5. Yn rheoliad 5—

(a)     ym mharagraff (1)—

                           (i)    yn lle'r diffiniad o “nodyn traddodi” (“consignment note”), rhodder—

ystyr “nodyn traddodi ” (“consignment note”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw’r ffurflen ddynodi y mae'n ofynnol iddi fod gyda'r gwastraff peryglus pan drosglwyddir ef yn unol ag Erthygl 19(2) o'r Gyfarwyddeb Wastraff.”,

                         (ii)    mewnosoder yn y man priodol—

ystyr “gwastraff domestig” (“domestic waste”) yw gwastraff a gynhyrchir gan aelwyd;”,

                       (iii)    yn lle'r diffiniad o “amlgasgliad” (“multiple collection”), rhodder—

ystyr “amlgasgliad” (“multiple collection”) yw taith a wneir gan gludwr unigol sy'n bodloni'r amodau a ganlyn—

(a)   bod y cludwr yn casglu mwy nag un llwyth o wastraff peryglus yn ystod y daith;

(b)   bod pob llwyth yn cael ei gasglu o fangreoedd gwahanol;

(c)   bod pob mangre y cesglir ohoni yng Nghymru ; a

(ch) bod pob llwyth a gesglir yn cael ei gludo gan y cludwr hwnnw yn ystod y daith at yr un traddodai;”,

                        (iv)    hepgorer diffiniad o “nodyn traddodi amlgasgliad” (“multiple collection consignment note”);

(b)     yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “adfer” (“recovery”) yw unrhyw weithrediad a'i brif ganlyniad yw bod gwastraff yn ateb diben defnyddiol drwy ddisodli deunyddiau eraill a fyddai fel arall wedi cael eu defnyddio i gyflawni swyddogaeth benodol, neu wastraff a gaiff ei baratoi i gyflawni'r swyddogaeth honno, ar y safle neu yn yr economi ehangach (mae Atodiad II o'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gosod rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o weithrediadau adfer);

ystyr “brocer” (“broker”) yw ymgymeriad sy’n trefnu i adfer neu waredu gwastraff ar ran eraill, gan gynnwys broceriaid o’r fath nad ydynt yn cymryd meddiant ffisegol o’r gwastraff;

ystyr “casglu” (“collection”) yw crynhoi gwastraff, gan gynnwys sortio cychwynnol a storio cychwynnol o wastraff at ddibenion cludo gwastraff i gyfleuster trin gwastraff;

ystyr “cynhyrchydd” (“producer”) yw unrhyw un y mae ei weithgareddau yn cynhyrchu gwastraff (“y cynhyrchydd gwreiddiol”) neu unrhyw un sy'n gwneud gwaith rhagbrosesu, cymysgu neu weithrediadau eraill sy'n golygu bod newid yn natur neu yng nghyfansoddiad y gwastraff;

ystyr “deiliad” (“holder”) yw cynhyrchydd y gwastraff neu'r person sydd yn ei feddu;

ystyr “deliwr” (“dealer”) yw unrhyw ymgymeriad sy’n gweithredu yn rôl penadur er mwyn prynu ac yna gwerthu gwastraff, gan gynnwys delwyr o’r fath nad ydynt yn cymryd meddiant ffisegol o’r gwastraff;

ystyr “gwaredu” (“disposal”) yw unrhyw weithrediad nad yw'n adfer hyd yn oed os oes canlyniad eilaidd i'r gweithrediad sef adennill sylweddau neu ynni (mae Atodiad I o'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gosod rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o weithrediadau gwaredu);

ystyr “olew gwastraff” (“waste oil”) yw unrhyw iriad mwynol neu synthetig neu olew diwydiannol nad yw bellach yn addas at y defnydd a fwriadwyd ar ei gyfer yn wreiddiol, megis olew sydd wedi ei ddefnyddio a hwnnw'n olew peiriannau hylosgi ac olew gerbocs, olew iro, olew ar gyfer tyrbinau ac olew hydrolig;

ystyr “rheoli” (“management”) yw casglu, cludo, adfer a gwaredu gwastraff, gan gynnwys goruchwylio'r gweithrediadau hynny a'r ôl-ofal am safleoedd gwaredu, a chan gynnwys camau a gymerir fel deliwr neu frocer;

ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.”;

(c)     ym mharagraff (3)(c), yn lle “, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad”, rhodder “neu atodlen o gludwyr”.

6. Yn rheoliad 8(1), yn lle “Atodiadau I, II a III”, rhodder “Atodiad III”.

7. Yn rheoliad 9—

(a)     ym mharagraff (1)—

                           (i)    yn lle “Atodiadau I, II a III”, rhodder “Atodiad III”;

                         (ii)    hepgorer “i'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus”;

(b)     ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) Nid yw'r pŵer a geir ym mharagraff (1) i benderfynu y caiff gwastraff ei drin fel gwastraff nad yw'n beryglus yn gymwys i wastraff a gafodd ei wanhau neu ei gymysgu gyda'r bwriad o leihau'r crynodiadau cychwynnol o sylweddau peryglus i lefel sy'n is na'r trothwyon ar gyfer diffinio gwastraff yn wastraff peryglus.”.

8. Yn rheoliad 18—

(a)     ar ôl y geiriau “wedi'i”, mewnosoder “wanhau neu wedi'i”;

(b)     ar ôl paragraff (a), mewnosoder—

(aa)  yn achos gwastraff peryglus sy'n wastraff olew, gwastraff olew o wahanol nodweddion;”.

9.Yn rheoliad 19—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “(2) a (3)”, rhodder “(2), (3) a (4)”;

(b)     ym mharagraff (3), hepgorer “neu esemptiad cofrestredig” a “neu'r esemptiad hwnnw”;

(c)     ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Mae paragraff (1) yn gymwys ar gyfer cymysgu olew gwastraff—

(a)   dim ond i'r graddau y mae'r gwaharddiad yn paragraff hwnnw yn ymarferol dechnegol ac yn ddichonadwy'n economaidd; a

(b)   dim ond pan fyddai cymysgu o'r fath yn rhwystro trin yr olew gwastraff.”;

10.Yn rheoliad 20(1)(a), hepgorer “neu esemptiad cofrestredig”.

11.Yn rheoliad 35—

(a)     ym mharagraff (1)(a), yn lle “(3)” rhodder “(2)”;

(b)     hepgorer paragraffau (1)(c) a (4);

(c)     ym mharagraff (5)—

                           (i)    yn lle “nodyn traddodi, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad”, rhodder “nodyn traddodi neu atodlen o gludwyr”,

                         (ii)    yn lle “Atodlen 4, 5 neu 6”, rhodder “Atodlen 4 neu 5”;

(ch) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) Hyd at ddiwedd y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y caiff Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011 eu gwneud—

(a)   caiff cludwr ddewis defnyddio'r weithdrefn amlgasgliad a oedd yn gymwys yn union cyn i'r Rheoliadau hynny ddod i rym; a

(b)   caniateir defnyddio'r ffurflenni a osodir yn y Rheoliadau hyn fel a ddeddfwyd yn wreiddiol, neu ffurflenni sy'n gofyn am yr un wybodaeth sydd yn sylweddol yn yr un fformat, yn hytrach na'r rhai a amnewidir gan Reoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011.”.

12. Yn rheoliad 36(1), yn lle “38” rhodder “39”.

13. Hepgorer rheoliad 38.

14.Yn rheoliad 42(2)—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “rheoliadau 43 a 44” rhodder “rheoliad 43”;

(b)     ym mharagraff (2), hepgorer “38(6)(b) ac (c),”.

15. Yn rheoliad 43(1), hepgorer “ac eithrio mewn achos y mae rheoliad 44 yn gymwys iddo”.

16. Hepgorer rheoliad 44.

17.Yn rheoliad 47—

(a)     ar ôl paragraff (5)(b), hepgorer “ac”;

(b)     ym mharagraff (5)(c), ar y dechrau, mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (5A),”;

(c)     ar ôl paragraff (5), mewnosoder—

“(5A) Os oes gan y person y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofrestr drwydded gwastraff y gweithredir y safle'n unol â hi, y cyfnod sy'n ofynnol ar gyfer cadw nodyn traddodi yn ôl rheoliad 51(2)(a) yw—

(a)    am 5 mlynedd ar ôl dyddodi'r gwastraff; neu

(b)    os yw'r drwydded yn awdurdodi gwaredu'r gwastraff drwy dirlenwi, hyd nes y bydd y drwydded wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.

(5B) Ym mharagraff (5A), mae i “tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff, ond nid yw'n cynnwys unrhyw weithrediad sy'n cael ei eithrio o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 3(2).”.

 

18. Yn rheoliad 48—

(a)     ym mharagraff (3)(c), yn lle “Atodiad IIA neu IIB o'r Gyfarwyddeb Wastraff”, rhodder “Atodiad I neu II o'r Gyfarwyddeb Wastraff (yn ôl y digwydd)”;

(b)     ym mharagraff (6)(a), hepgorer “a”;

(c)     ym mharagraff (6)(b), ar y dechrau, mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (6A),”;

(ch) ar ôl paragraff (6), mewnosoder—

“(6A) Os oes gan y person y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofrestr drwydded gwastraff y gweithredir y safle'n unol â hi, y cyfnod sy'n ofynnol ar gyfer cadw nodyn traddodi yn ôl rheoliad 51(2)(a) yw—

(a)    am 5 mlynedd ar ôl gwaredu neu adfer y gwastraff; neu

(b)    os yw'r drwydded yn awdurdodi gwaredu'r gwastraff drwy dirlenwi (yn ogystal a thriniaeth arall), hyd nes y bydd y drwydded wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.

(6B) Ym mharagraff (6A), mae i “tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff, ond nid yw'n cynnwys unrhyw weithrediad sy'n cael ei eithrio o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 3(2).”.

 

19. Yn rheoliad 49—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “traddodwr gwastraff peryglus”, rhodder “traddodwr, neu frocer neu ddeliwr mewn, gwastraff peryglus”

(b)     yn lle paragraff (3), rhodder—

(3) Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo gadw cofnod o dan baragraff (1) ei gadw—

(a)   tra bo’r person yn ddeiliad y gwastraff neu (os nad yw’n ddeiliad) tra bo ganddo reolaeth o’r gwastraff; a

(b)  am 3 blynedd ar ôl y dyddiad y trosglwyddir y gwastraff i berson arall.;

(c)     ym mharagraff (4)—

                           (i)     ar ôl “deiliad”, mewnosoder “, deliwr, brocer”;

                         (ii)    ar ôl “chofnodi”, mewnosoder “yn gronolegol”

(ch) ym mharagraff (5)—

                           (i)    ar ôl y tro cyntaf mae “deiliad” yn ymddangos, mewnosoder “, deliwr, brocer”,

                         (ii)    yn is-baragraff (b), o flaen “draddodwr”, mewnosoder “ddeliwr, brocer neu”.

20. Yn rheoliad 50(3), ar ôl “chofnodi”, mewnosoder “yn gronolegol”.

21. Yn rheoliad 51(2)(a)—

(a)     hepgorer “nodiadau amldraddodi a phan” ac yn ei le rhodder “, pan”;

(b)     hepgorer “neu 44”.

22. Yn rheoliadau 52(1) a 55(3), yn lle “Atodiad IIA neu Atodiad IIB”, rhodder “Atodiad I neu Atodiad II”.

23. Hepgorer rheoliad 57.

24.Yn rheoliad 60—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 5”, rhodder “Erthygl 16”;

(b)     hepgorer paragraff (2).

25.Yn rheoliad 65(c), yn lle “44” rhodder “43”.

26. Yn y tabl yn rheoliad 65A(1), hepgorer y rhes sy'n dechrau “rheoliad 44”.

27. Yn rheoliad 69(1)(d), yn lle “44” rhodder “43”.

28. Hepgorer Atodlenni 1, 2 a 6.

29. Yn lle Atodlen 3, rhodder yr Atodlen a osodir yn Rhan 2.

30. Yn lle Atodlen 4, rhodder yr Atodlen a osodir yn Rhan 3.

31. Ym mharagraff 4(3)(a) o Atodlen 7, yn lle “43 neu 44” rhodder “36 neu 43”.

32. Ym mharagraff 1 o Atodlen 7, yn lle “pharagraff 7” rhodder “pharagraff 6”.

33. Ym mharagraff 6 o Atodlen 7—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “rheoliad 38(1)”, rhodder “y diffiniad o “amlgasgliad” (“multiple collection”) yn rheoliad 5(1)”;

(b)     ym mharagraff (2), hepgorer yr holl eiriau ar ôl “y Rheoliadau hyn”;

(c)     hepgorer paragraff (3).

34. Yn Atodlen 11, hepgorer paragraffau 5 i 8 a 11 i 25.

RHAN 2

Atodlen 3 newydd

ATODLEN 3                       Rheoliad 3

Atodiad III i’r   Gyfarwyddeb Wastraff

Properties of waste which render it hazardous

H1          “Explosive”: substances and preparations which may explode under the effect of flame or which are more sensitive to shocks or friction than dinitrobenzene.

H2          “Oxidizing”: substances and preparations which exhibit highly exothermic reactions when in contact with other substances, particularly flammable substances.

H3-A       “Highly flammable”

               - liquid substances and preparations having a flash point below 21°C (including extremely flammable liquids), or

               - substances and preparations which may become hot and finally catch fire in contact with air at ambient temperature without any application of energy, or

               - solid substances and preparations which may readily catch fire after brief contact with a source of ignition and which continue to burn or be consumed after removal of the source of ignition, or

               - gaseous substances and preparations which are flammable in air at normal pressure, or

               - substances and preparations which, in contact with water or damp air, evolve highly flammable gases in dangerous quantities.

H3-B       “Flammable”: liquid substances and preparations having a flash point equal to or greater than 21°C and less than or equal to 55°C.

H4          “Irritant”: non-corrosive substances and preparations which, through immediate, prolonged or repeated contact with the skin or mucous membrane, can cause inflammation.

H5          “Harmful”: substances and preparations which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may involve limited health risks.

H6          “Toxic”: substances and preparations (including very toxic substances and preparations) which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may involve serious, acute or chronic health risks and even death.

H7          “Carcinogenic”:  substances and preparations which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may induce cancer or increase its incidence.

H8          “Corrosive”: substances and preparations which may destroy living tissue on contact.

H9          “Infectious”: substances and preparations containing viable micro-organisms or their toxins which are known or reliably believed to cause disease in man or other living organisms.

H10         “Toxic for reproduction”: substances and preparations which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may induce non-hereditary congenital malformations or increase their incidence.

H11         “Mutagenic”: substances and preparations which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may induce hereditary genetic defects or increase their incidence.

H12         Waste which releases toxic or very toxic gases in contact with water, air or an acid.

H13(*)    “Sensitizing”: substances and preparations which, if they are inhaled or if they penetrate the skin, are capable of eliciting a reaction of hypersensitization such that on further exposure to the substance or preparation, characteristic adverse effects are produced.

(*) As far as testing methods are available.

H14         “Ecotoxic”: waste which presents or may present immediate or delayed risks for one or more sectors of the environment.

H15         Waste capable by any means, after disposal, of yielding another substance, e.g. a leachate, which possesses any of the characteristics above.

Notes

35. Attribution of the hazardous properties “toxic” (and “very toxic”), “harmful”, “corrosive”, “irritant”, “carcinogenic”, “toxic to reproduction”, “mutagenic” and “ecotoxic” is made on the basis of the criteria laid down by Annex VI, to Council Directive 67/548/EEC of 27 June 1967 on the approximation of laws, regulations and administrative provisions relating to the classification, packaging and labelling of dangerous substances.

36. Where relevant the limit values listed in Annex II and III to Directive 1999/45/EC of the European Parliament and of the Council of 31 May 1999 concerning the approximation of laws, regulations and administrative provisions of the Member States relating to the classification, packaging and labelling of dangerous preparations shall apply.

Test methods

The methods to be used are described in Annex V to Directive 67/548/EEC and in other relevant CEN-notes.”


RHAN 3

Atodlen 4 newydd

ATODLEN 4 Rheoliad 35(2)

 

HAZARDOUS WASTE (WALES) REGULATIONS 2005

RHEOLIADAU GWASTRAFF PERYGLUS (CYMRU) 2005 

 

 

 

Part A NOTIFICATION DETAILS

Rhan A MANYLION HYSBYSU  

 

1.        Consignment Note Code:

           Cod Nodyn Traddodi:

 

 

 

 

 

 

/

 

 

 

 

 

 

2.      The waste described below is to be removed from (name, address, postcode, telephone, e-mail, facsimile):

          Mae’r gwastraff a ddisgrifir isod i’w gludo o (enw, cyfeiriad, cod post, ffôn, e-bost, ffacs):

 

3.      Premises Code (where applicable):

         Cod y Fangre (os yw’n gymwys):

 

 

 

 

 

 

 

 

4.      The waste will be taken to (name, address & postcode):

         Cludir y gwastraff i (enw, cyfeiriad a chod post):

 

5.      The waste producer was (if different from 2.) (name, address, postcode, telephone, e-mail, facsimile):

         Cynhyrchydd y gwastraff oedd (os yw’n wahanol i 2) (enw, cyfeiriad, cod post, ffôn, e-bost, ffacs);

 

 

Part B DESCRIPTION OF THE WASTE

Rhan B DISGRIFIAD O’R GWASTRAFF

 

1.         The process giving rise to the waste(s) was:                                                                                               2.       SIC for the process giving rise to the waste:

Y broses a roes fod i’r gwastraff(oedd) oedd:                                                                                                      SIC am y broses a roes fod i’r gwastraff:

WASTE DETAILS (where more than one waste type is collected all of the information given below must be completed for each EWC identified)

MANYLION Y GWASTRAFF (os cesglir mwy nag un math o wastraff rhaid cwblhau’r holl wybodaeth a roddir isod ar gyfer pob EWC a ddynodwyd)

The waste(s) is:

              Dyma’r gwastraff(oedd):

Description of waste

Disgrifiad o’r gwastraff

List of Wastes (EWC) code (6 digits):

Cod Rhestr y Gwastraffoedd (EWC) (6 digid)

Quantity (kg):

Cyfaint (kg):

The chemical/biological components in the waste and their concentrations are:

Dyma gyfansoddion cemegol/ biolegol y gwatraff a’u crynodiadau:

Physical Form (Gas, Liquid, Solid, Powder, Sludge or Mixed):

Ffurf Ffisegol (Nwy, Hylif, Solid, Powdwr, Llaca neu Gymysgfa):

Hazard code(s):

 

Cod(au) perygl:

Container type, number & size:

Math, rhif a maint y cynhwysydd

Component

Concentration (% or mg/kg)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

The information given below is to be completed for each EWC identified

Mae’r wybodaeth a roddir isod i’w chwblhau ar gyfer pob EWC a ddynodwyd

EWC Code

Cod EWC

UN identification number(s)

Rhif(au) dynodi UN

Proper shipping name(s)

Enw(au) priodol y llwyth

UN Class(es)

Dosbarth(au) UN

Packing Group(s)

Grŵp neu Grwpiau Pecynnu

Special handling requirements

Gofynion trafod arbennig

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Part C  CARRIER’S CERTIFICATE

Rhan C TYSTYSGRIF Y CLUDWR

Part D  CONSIGNOR’S CERTIFICATE

Rhan D TYSTYSGRIF Y TRADDODWR

 

 
(If more than one carrier is used, please attach Schedule for subsequent carriers. If schedule of carriers is attached tick here).

(Os defnyddir mwy nag un cludwr, amgaewch

Atodlen ar gyfer cludwyr dilynol. Os amgaeir atodlen o gludwyr, ticiwch fan hyn).

 

I certify that I today collected the consignment and that the details in A2, A4 and B3 are correct and I have been advised of any specific handling requirements.

Yr wyf yn ardystio fy mod heddiw wedi casglu’r llwyth a bod y manylion yn A2, A4 a B3 yn gywir a fy mod wedi cael fy hysbysu o unrhyw ofynion trafod arbennig.

 

Where  this consignment forms part of a multiple collection, the round number and collection number are:

Pan fo’r llwyth hwn  yn ffurfio rhan o amlgasgliad, rhif y cylch casglu a rhif y casgliad yw:

 

 

                  /

 

1.      Carrier Name:

         Enw’r Cludwr:

 

        On behalf of (name, address, postcode, telephone, e-mail, facsimile):

       Ar ran (enw, cyfeiriad, cod post, ffôn, e-bost, ffacs):

 

2.      Carrier registration no./ reason for exemption:

         Rhif cofrestru’r cludwr / rheswm dros esemptiad:

         

3.      Vehicle registration no.(or mode of transport, if not road):

         Rhif cofrestru’r cerbyd (neu’r cyfrwng cludo os nad ar ffordd)

 

Signature/ Llofnod

 

Date/ Dyddiad                                                                at/ am                        hrs/ o’r gloch

I certify that the information in A, B and C above has been completed and is correct, that the carrier is registered or exempt and was advised of the appropriate precautionary measures.  All of the waste is packaged and labelled correctly and the carrier has been advised of any special handling requirements. I confirm that I have fulfilled my duty to apply the waste hierarchy as required by regulation 12 of the Waste (England and Wales) Regulations 2011.

 

Yr wyf yn ardystio bod yr wybodaeth yn A, B ac C uchod wedi ei chwblhau ac yn gywir, bod y cludwr wedi ei gofrestru neu'n esempt a'i fod wedi cael ei hysbysu o'r mesurau rhagofalu priodol. Cafodd yr holl wastraff ei becynnu a'i labelu yn gywir a chafodd y cludwr ei hysbysu o unrhyw ofynion trafod arbennig. Yr wyf yn cadarnhau fy mod wedi cyflawni fy nyletswydd i ddefnyddio’r hierachaeth wastraff fel y mae’n ofynnol gan reoliad 12 o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011.

 

 

1.      Consignor Name:

         Enw’r Traddodwr:

         

On behalf of (name, address, postcode, telephone, e-mail, facsimile):

Ar ran (enw, cyfeiriad, cod post, ffôn, e-bost, ffacs):

 

 

 

 

 

Signature/ Llofnod

 

 

Date/ Dyddiad

                                              at/ am                        hrs/ o’r gloch

 

Part E  CONSIGNEE’S CERTIFICATE (where more than one waste type is collected all of the information given below must be completed for each EWC)

Rhan E  TYSTYSGRIF Y TRADDODAI (os cesglir mwy nag un math o wastraff rhaid cwblhau’r holl wybodaeth a roddir isod ar gyfer pob EWC)

 

Individual EWC code(s) received

Cod(au) EWC unigol a dderbyniwyd

Quantity of each EWC code received (kg)

Cyfaint pob cod EWC a dderbyniwyd (kg)

 

EWC Accepted/Rejected

Cod EWC a dderbyniwyd/ a wrthodwyd

Waste Management operation (R or D code)

Gweithrediad Rheoli Gwastraff (cod R neu D)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

1.      I received this waste at the address given in A4 on (date)                           at                                             hrs

         Daeth y gwastraff hwn i law yn y cyfeiriad ar roddir yn A4 ar                           am                                       o’r gloch

 

2.      Vehicle registration no. (or mode of transport, if not road):

          Rhif cofrestru’r  cerbyd (neu’r cyfrwng cludo os nad ar ffordd)

 

3.      Where waste is rejected please provide details:

         Os gwrthodir y gwastraff, rhowch y manylion isod:

 

I certify that  environmental permit/registered exemption no(s).                                         authorises the management of the waste described in B at the address given in A4..

 

 

 
Where the consignment forms part of a multiple collection, as identified in Part C, I certify that the total number of consignments forming the collection are:

 

Yr wyf yn ardystio bod y drwydded amgylcheddol/ caniatâd/ esemptiad cofrestredig ................................................rhif(au)  yn awdurdodi rheoli’r gwastraff a ddisgrifir yn B yn y cyfeiriad a roddir yn A4.

 

Pan fo’r llwyth yn ffurfio rhan o amlgasgliad, fel a ddynodir yn Rhan C, yr wyf yn ardystio mai cyfanswm y llwythi sy’n ffurfio’r casgliad yw:

 

Name/ Enw

On behalf of (name, address, postcode, telephone, e-mail, facsimile):

Ar ran (enw, cyfeiriad, cod post, ffôn, e-bost, ffacs):

 

Signature/ Llofnod

 

Date/ Dyddiad                                                        at/ am                        hrs/ o’r gloch

 

 

 



([1])           O.S. 2010/1552.

([2])           1972 p. 68. Wedi i Weinidogion Cymru gael eu dynodi mewn perthynas â mater neu ddiben, cânt arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) mewn perthynas â’r mater neu’r diben hwnnw; gweler adran59(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

([3])           O.S. 2005/1806 (Cy.138) a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/937, 2007/3476, 2007/3538, 2009/2861 a 2010/675.

([4])           O.S. 2004/1490, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

([5])           O.S. 2005/1820 (Cy.148).

([6])           O.S. 2005/2839 (Cy.203).

([7])           O.S. 2009/995 (Cy. 81).

([8])           O.S. 2003/1720 (Cy.187)

([9])           O.S. 2005/1806 (Cy. 138) a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/937, 2007/3538, 2009/2861 a 2010/675.

.